Translate into English

Ein Pwrpas

Cydweithio i gyflenwi gwell adeiladau, cartrefi a chymunedau.

Mae Cynghrair Caffael Cymru (WPA) yn darparu fframweithiau sy’n cydymffurfio â OJEU y gellir eu defnyddio gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol a chyrff sector cyhoeddus eraill i gaffael gwaith, cynhyrchion a gwasanaethau ar gyfer adeiladu, ailwampio a chynnal a chadw tai cymdeithasol, ysgolion ac adeiladau cyhoeddus.

Rydym ni’n gweithredu yng Nghymru gan gysylltu cwmnïau adeiladu, gweithgynhyrchwyr a darparwyr gwasanaeth ag anghenion ein cleientiaid.

Rydym ni’n dod â phrynwyr a chyflenwyr at ei gilydd i adeiladu a chynnal eiddo cyhoeddus yn fwy effeithlon a chost effeithiol, ac er budd cymunedau lleol.

Cefnogir y sefydliad gan LHC. Fe’i sefydlwyd yn 1966 ac fe’i cydnabyddir yn un o’r darparwyr fframweithiau caffael mwyaf profiadol ac uchel ei barch yn y sector adeiladu.

Gall pob sefydliad yn y sector cyhoeddus fanteisio ar ein fframweithiau sy’n arwain y diwydiant, ynghyd â chymorth technegol a gwasanaethau cymorth caffael.

Ein Gwerthoedd

Mae’r ffordd rydym ni’n gweithredu yn WPA yn seiliedig ar ein gwerthoedd.

Ein gwerthoedd, cynnal rhagoriaeth drwy:
Unplygrwydd, Parch, Ymddiriedaeth a Thryloywder
Gwybodaeth a Phrofiad Proffesiynol
Bod yn Hyblyg, Ystwyth a Chreadigol Cyflogi, datblygu a chynnal timau ymroddedig o weithwyr hapus ac iach

5 rheswm da dros ddewis WPA

1

Cydymffurfiaeth

Caiff holl drefniadau fframwaith WPA eu tendro drwy OJEU i gydymffurfio â Chyfarwyddeb Caffael yr UE a rheolau caffael sector cyhoeddus y DU.

2

Ansawdd

Caiff manylebau ar gyfer pob maes cynnyrch eu hymchwilio’n llawn a’u datblygu cyn ymgymryd â phroses dendro’r fframwaith. Mae ein proses werthuso’n sicrhau mai dim ond cynhyrchion, cyflenwyr a chontractwyr ansawdd uchel a ddewisir i fod ar ein fframweithiau. Mae WPA yn gweithio gyda chi i sicrhau bod rhaglenni gwaith yn cael eu cyflenwi’n unol â’ch disgwyliadau ac os ceir unrhyw wyro o’r perfformiad targed, bydd WPA yn cysylltu â’r Cwmni Penodedig yn uniongyrchol i gytuno ar gamau adferol.

3

Gwerth am Arian

Cydnabyddir WPA gan ei ddefnyddwyr am gyflenwi Gwerth am Arian drwy ei holl fframweithiau. Drwy ddod yn Aelod o WPA gallai eich sefydliad hefyd gael budd o ad-daliad diwedd blwyddyn ar ffurf dosbarthu gwargedion WPA.

4

Cynaladwyedd

Rhaid i bob cwmni a benodir gan WPA fod â pholisi cynaladwyedd gweithredol sy’n rhoi ystyriaeth i reoli amgylcheddol ynghyd â chynhwysiant cymdeithasol, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae WPA yn annog cyflenwyr a chontractwyr yng Nghymru i gynnig i ddod yn Gwmni Penodedig WPA er mwyn cynnig cynifer o opsiynau lleol i’n cleientiaid â phosibl. Wrth reswm dim ond cwmnïau sy’n ymgeisio y gallwn ni eu penodi, ond rydym ni’n angerddol dros annog twf y diwydiannau rydym ni’n gysylltiedig â nhw yng Nghymru.

5

Effeithlonrwydd

Mae trefniant yn ôl y gofyn o fframwaith neu DPS yn symleiddio’r broses gaffael. Symud a bod ar y safle’n gyflym. Lleihau costau tendro.

Cronfeydd budd cymunedol

Mae WPA wedi sefydlu Cronfa Budd Cymunedol WPA. Defnyddir y gronfa gan Aelodau’r Pwyllgor Gweithredol i ail-fuddsoddi cronfeydd a gynhyrchir gan weithgaredd WPA yn ôl yn eu cymunedau eu hunain.

Mae WPA yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru sy’n cydweithio gyda’n Haelodau i gael y canlyniadau gorau posibl i’w cymunedau.

Rhagor o wybodaeth

Yn gweithio yn WPA

Diddordeb ymuno â'r tîm? Mae'r bobl yn WPA i gyd yn rhannu rhywbeth yn gyffredin. Talent a brwdfrydedd anhygoel.

Pwrpas WPA yw darparu gwell adeiladau a chartrefi sy'n gwella cymunedau lleol. Gwnawn hyn trwy logi'r dalent orau a thrwy annog arloesi.

Rhagor o wybodaeth

Cydweithio â'n partneriaid

Yn ôl i'r brig